Duw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map sy'n dangos canran y boblogaeth yn Ewrop sy'n credu mewn Duw (arolwg 2005)

Mae hon yn erthygl am Dduw yn y crefyddau un duwiol; (gweler hefyd Al-lâh). Am 'duw' mewn cyd-destun amldduwiaeth, gweler Duw (amldduwiaeth), Duwiau Celtaidd a Duwies.

Mae'r enw Duw yn cyfeirio at y duwdod y mae dilynwyr crefyddau Undduwiaeth yn ystyried yn wirionedd goruchel. Credir mai creawdwr y bydysawd yw Duw, neu o leiaf mai ei gynhaliwr yw ef. Mewn crefyddau eraill hen a diweddar, rhai enwadau Hindŵaidd er enghraifft, credir fod y Bod goruchel yn fenywaidd a chyfeirir ati fel Y Dduwies. Nid yw pawb yn credu mewn Duw neu dduwiau. Mae rhai yn amheuwr ond gyda meddwl agored ar y pwnc; gelwir pobl o'r farn hynny'n agnostig. Mae eraill yn gwrthod bodolaeth Duw yn gyfan gwbl; gelwir y rhain hynny'n anffyddwyr.

Religion template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill